Sinopse
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episódios
-
BONWS Podpeth - Mari Lovgreen
21/12/2016 Duração: 01h03minMae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017). Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.
-
Podpeth #15 - RoboPod
19/12/2016 Duração: 01h03minWythnos cyn 'dolig, ac am y chweched wythnos yn olynol, dyma Podpeth arall! Mae'r hogia yn trafod barfau a rhyfeloedd, ac yn ymddiheuro i Jefferson Montero. Hefyd, mae Mari Løvgreen (a'i ffrind Ffion) yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), ac mae Dad efo syniad am raglen - 'Carreg Filltir'.
-
BONWS Podpeth - Sarah Breese
14/12/2016 Duração: 01h40sMae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.
-
Podpeth #14 - Pod of Egypt
12/12/2016 Duração: 01h04sEin gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu.
-
BONWS Podpeth - Geraint Iwan
07/12/2016 Duração: 01h04minMae cyflwynydd Radio Cymru Geraint Iwan yn egluro ysbrydion, reality TV, pobl yn byw yn yr haul, Brexit a ffilms M. Night Shyamalan mewn awren o sgwrs efo'r hogia! Mae Geraint ar Radio Cymru bob Nos Wener rhwng 7 a 10.
-
Podpeth #13 - TriskaidekaPodia
05/12/2016 Duração: 56min"Kevin!" Ia wir, mae'r Podpeth yn nol eto gyda phennod anlwcus i'r rhai sydd ddim yn cyfri'r Bonwses fel penodau go wir (fel ni). Wythnos yma, mae Geraint Iwan yn ymuno i siarad am junk food a Gerry Adams, ac mae'r hogiau yn siarad am sut fedrwch chi sy'n gwrando noddi'r Podpeth, a sut byswch chi'n elwa. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd am raglen teledu - "Y Llew Gwyn".
-
BONWS Podpeth - Rhys Gwynfor
30/11/2016 Duração: 01h04minMae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??). Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud.
-
Podpeth #12 - Escape Pod New York
28/11/2016 Duração: 57minPodpeth ahoy! Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons".
-
BONWS Podpeth - Nici Beech
23/11/2016 Duração: 01h05minMae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin.
-
Podpeth #11 - Dad Pod
21/11/2016 Duração: 01h06minWythnos newydd, Podpeth newydd! Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do. Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol".
-
BONWS Podpeth - Llŷr Alun Jones
16/11/2016 Duração: 01h07minMae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump.
-
Podpeth #10 - Grab her by the Pod
14/11/2016 Duração: 01h05minMae Hywel ag Iwan nol ar ol amser maith! Sut mae'r byd wedi newid ers y tro diwethaf i ni glywed Podpeth? Ein gwestai arbennig ydi'r hogyn o Sling - na, dim John Ogwen, ond yr artist Llŷr Alun Jones! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Llŷr i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd.
-
Podpêl-droed (v Portiwgal)
06/07/2016 Duração: 19minAr ôl twrnamaint bythgofiadwy, mae Cymru allan, wedi colli 2-0 i Bortiwgal yn y semis. Ond, mae Iwan a @SpursMel yn bell o fod yn ddigalon (heb law bod Mel isio roi cweir i Cristiano). Mae Hywel yng nghwmni Dan Owen (I Fight Lions), John Sams a Jack Peyton, i drafod y gêm (a Tinder).
-
Podpêl-droed (v Gwlad Belg)
02/07/2016 Duração: 17minWow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
-
Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)
25/06/2016 Duração: 15minMae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi'r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i'r rowndiau gogynderfynol. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn "Bale Coleman". Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
-
Podpêl-droed (v Rwsia)
21/06/2016 Duração: 17minMae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy). Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
-
Podpêl-droed (v Lloegr)
16/06/2016 Duração: 14minMae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
-
Podpêl-droed (v Slofacia)
12/06/2016 Duração: 15minGydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
-
BONUS Podpeth - Llwyd Owen
08/06/2016 Duração: 01h35sMae'r nofelydd Llwyd Owen yn y stiwdio 'stafell gefn yn siarad am erotic literature, Papa John's a'i lyfr newydd, Taffia.
-
BONUS Podpeth - Dyl Mei
05/06/2016 Duração: 58minMae un o gyflwynwyr gorau Cymru (top 3!) Dyl Mei yn trafod guilt trips, Gwobrau'r Selar, Duffy a FIFA.