Beti A'i Phobol

Eurig Druce

Informações:

Sinopse

Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant. Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti. Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dde Lloegr yn wreiddiol, a'i Nain yn dod o Drawsfynydd - roedd ei daid yn gweithio yn y camp gerllaw adeg rhyfel fel milwr a chyfarfod felly.Mae wedi colli rhan fwyaf o’i olwg yn ei llygaid chwith: Pan oedd o rhyw 3-4 oed roedd yn chwarae yn yr ardd efo cane oedd yn dal planhigyn i fyny. Wrth fownsio’r cane, daeth allan o’r ddaear a mynd syth i’w lygaid. Mae’n cofio bod efo’i fam a’i dad, a’r sôn am fynd a fo mewn ambiwlans ac yntau’n dechrau crio. Dim ond 20% o’i olwg sydd ganddo yn ei lygaid, ond gan ei fod wedi dig