Beti A'i Phobol

Nicola Davies

Informações:

Sinopse

Cobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor y Sioe Frenhinol. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd Cyngor y Sioe.