Beti A'i Phobol

Meirion Jones

Informações:

Sinopse

Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones.Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai’n ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim. Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo’i Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo’i Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi’n berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno