Beti A'i Phobol

Catrin Atkins

Informações:

Sinopse

Catrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni. Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith. Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn y sioe Cirque du Soleil yn Vegas, ac yn byw yno gyda’i deulu ers 10 mlynedd. Fe dreuliodd Catrin amser yng Nghanada, ac fe newidiodd hyn ei bywyd. Fe sylweddolodd ei bod yn medru gwneud pethau ar ei phen ei hun. Mae hi bellach yn hapus yn ei chroen, ac yn sôn bod hi wedi cymryd amser i gyrraedd y man yma.