Beti A'i Phobol

Meinir Gwilym

Informações:

Sinopse

Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George. Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair.Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor. Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd ati i greu caneuon a phwysigrwydd geiriau, a’r ysbrydoliaeth sy’n dod o brofiadau bywyd.Mae bywyd personol a chefndir teuluol Meinir Gwilym yn cael sylw, gan gynnwys hanes y teulu, perthynas â rhieni a brodyr, a’r dylanwad cerddorol yn y cartref. Mae’r sgwrs yn cynnwys atgofion am blentyndod, addysg, a’r ffordd y mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’r teulu.