Sinopse
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episódios
-
Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)
29/11/2022 Duração: 32minMae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr. Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin. Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes. Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...
-
Podpêl-droed 2022 (v Iran)
26/11/2022 Duração: 39minMae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler? Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.
-
Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)
22/11/2022 Duração: 30minMae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock. Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.
-
Syniadad #10 - Telibocs
26/07/2022 Duração: 37min"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?" Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.
-
Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)
19/07/2022 Duração: 29min"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad" Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.
-
Syniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr
12/07/2022 Duração: 33min"Be 'di duck yn criced?" "Dim" "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..." Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel. Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.
-
Syniadad #7 - Podpeth ar Daith!
28/06/2022 Duração: 36min"Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?" "Na." Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?
-
Syniadad #6 - Gigs VR
21/06/2022 Duração: 36min"S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel" Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer.
-
Syniadad #5 - Incognito / Limo i’r Sêr
14/06/2022 Duração: 40min"Dw i 'di g'neud tri sgript bach..." Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.
-
Syniadad #4 - Cystadleuaeth Cân Eurovision Cymru
07/06/2022 Duração: 33min"Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de" "Pam?!" Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'.
-
Syniadad #3 - Cewri Tudur
31/05/2022 Duração: 33min"Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip." Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel. (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)
-
Syniadad #2 - Tacsi!
24/05/2022 Duração: 28min"Dw i'm isho byrstio bybl chdi strêt awe... ond sut mae hwn yn wahanol i Gwlad yr Astra Gwyn?" Mae Iwan, Hywel ac Elin yn ymateb i syniad @SpursMel am sitcom newydd sbon.
-
Syniadad #1 - Mothfil
17/05/2022 Duração: 29min"Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities" Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel.
-
UN POD OLA LEUAD #9 - Rhys Gwynfor
21/12/2021 Duração: 01h08minYr awdur teledu a'r cerddor arbennig Rhys Gwynfor sydd yn ymuno am sgwrs i drafod 'Un Nos Ola Leuad', ond tro yma yr addasiad ffilm o 1991 gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Pritchard. Nadolig Llawen!
-
Odpeth 25 - Ysbrydion Llandaf
30/11/2021 Duração: 37minA wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth!
-
Odpeth 24 - Aliens
23/11/2021 Duração: 34minHeddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.
-
Odpeth 23 - Ysbrydion Pen Llŷn
16/11/2021 Duração: 36minYda chi wedi clywed am Bwgan Pant-Y-Wennol? Na ni! Yn y bennod yma o Odpeth, mae'r criw yn trafod Pen Llŷn, pronouns, poltergeists a property developers.
-
Odpeth 22 - Rhyw Ysbryd
09/11/2021 Duração: 27minYn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...
-
Odpeth 21 - Judge Jeffreys
02/11/2021 Duração: 28minPwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...
-
Odpeth 20 - COVIDspiracies
26/10/2021 Duração: 33minI ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd!