Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 435:47:39
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episódios

  • Ceri Isfryn

    05/06/2022 Duração: 51min

    Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri ‘sgrifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda’r North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am

  • Siân Eirian

    29/05/2022 Duração: 41min

    "Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C.Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a’r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson.Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.

  • Russell Isaac

    22/05/2022 Duração: 50min

    Russell Isaac yw gwestai Beti George - cyn-newyddiadurwr, sydd bellach yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig ac i gorff yn Asia sydd yn paratoi'r gwledydd rhag y trychinebau sydd yn debygol o ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.

  • Dr Sara Louise Wheeler

    15/05/2022 Duração: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler.Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Mae ganddi gyflwr genetig prin, sef Syndrom Waardenburg Math 1, sy'n golygu fod ganddi ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea - ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu drama gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef y ‘Y Dywysoges Arian’, sy’n mynd i’r afael â chymeriad sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw drawsffurfio.

  • Catrin Ellis Jones

    08/05/2022 Duração: 50min

    Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda’r bobol gynhenid. Mae hi bellach yn gweithio ar brosiectau ynni yn ein moroedd. "36 % o ynni adnewyddol 'da ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban, be sw ni’n licio’i weld ydi Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd sydd i ddod fel bod ni'n creu hi'n bosib i ni ddi-garboneiddio mwy o'n diwydiant ni". " Mi fydda Cymru yn medru gwneud dur di-garbon" meddai Catrin.

  • Meleri Tudur

    01/05/2022 Duração: 49min

    Y gyfraith yw maes gwestai Beti ai Phobol a hynny gyda’r Tribiwnlysoedd. Mae’n Farnwr yn Ddirprwy Lywydd y Siambr, mae ganddi sedd yn yr Uchel Lys a hi yw’r Barnwr sydd yn arwain ar foderneiddio’r llysoedd, ac mae hi’n fam i 5 o ferched. Meleri Tudur sydd yn cadw cwmni gyda Beti George.

  • Dyfed Edwards

    24/04/2022 Duração: 48min

    Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson.Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i’r Coleg Normal ym Mangor i astudio ‘r cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio’r cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a’i greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu’n fawr. Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo grŵp papurau newydd yr Herald a bu’n llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn

  • Dai Jones

    17/04/2022 Duração: 50min

    Fel teyrnged i’r diweddar Dai Jones Llanilar, dyma gyfle eto i wrando ar ei sgwrs gyda Beti George o 2002 , rhaglen arbennig a recordiwyd gyda chynulleidfa yn Neuadd Rhydypennau, Aberystwyth.

  • Carren Lewis

    10/04/2022 Duração: 47min

    Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn triniaeth IVF fe benderfynon nhw fabwysiadu. Mae Carren yn sôn am y cartref plant amddifaid yn Diyarbakır yn Nhwrci lle y daeth hi o hyd i'w mhab. Hogan fach a ddaliodd ei sylw, ond roedd ei mhâm Ann wedi gwirioni ar fachgen bach gyda gwên anferth, brech yr ieir, trwyn budr a llygaid croes. Pan gafodd Carren wybod nad oedd mabwysiadu'r ddau yn opsiwn, roedd yn rhaid dewis.Dydi Carren ddim wedi celu dim rhagddo. Wrth i blant eraill glywed straeon dychmygol gyda'r nos, roedd Bedri'n clywed am ei hanes mewn cartref yn Nhwrci. Mae bellach yn gwybod am ddyddiau cynharaf ei fywyd hefyd, yn cael ei ddarganfod yn fabi gan

  • Beks - Rebekah James

    03/04/2022 Duração: 53min

    Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.

  • Tegryn Jones

    27/03/2022 Duração: 52min

    Tegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 i sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

  • Elin Mai

    20/03/2022 Duração: 50min

    Elin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai...Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Holden a'r comedïwr Keith Lemon. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

  • Gwenan Roberts

    13/03/2022 Duração: 50min

    Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni.Cafodd ei chyflwyno i feddylgarwch tua deunaw mlynedd yn ôl ac yr oedd ei ymarfer yn hanfodol iddi yn ystod y cyfnod ansicr a gafodd. Tra'n gweithio llawn amser llawn amser dechreuodd gwrs ôl radd i fod yn athro meddylgarwch.

  • Siân Elen Tomos

    07/03/2022 Duração: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd. Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.

  • Wyn Thomas

    20/02/2022 Duração: 47min

    Wyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

  • Edward Keith Jones

    13/02/2022 Duração: 49min

    Edward Keith Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Brif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mynydda yw ei ddiléit pennaf, ac fe ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonynt, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Yn yr 8 mis diwethaf fe gafodd salwch difrifol a olygodd wythnosau lawer yn yr ysbyty yn ymladd am ei fywyd.

  • Elin Prydderch

    06/02/2022 Duração: 49min

    Elin Prydderch yw gwestai Beti George, merch sydd yn wreiddiol o Nasareth yn Nyffryn Nantlle. Mae hi'n Faethegydd ac yn Adweithegydd, yn Fam i 3 a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y corff ac mewn bwyta bwyd iach sydd yn gwneud i ni deimlo'n well. Fe gafodd ddiagnosis o Ddyslecsia'n oedolyn ac mae hi'n rhannu profiadau bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon o Sunami i Sia.

  • Theo Davies-Lewis

    30/01/2022 Duração: 51min

    Beti George yn sgwrsio gyda Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol am ei fagwraeth yn Llanelli, ei gyfnod yn Coleg Llanymddyfri, a Phrifysgol Rhydychen. Yn 24 mlwydd oed mae'n ysgrifennu colofnau i'r cylchgrawn The Spectator ac yn cyfrannu i'r Times ac fe yw prif sylwebydd gwleidyddol y National Wales. Mae'n rhannu profiadau ac yn dewis darnau o gerddoriaeth sydd yn agos at ei galon.

  • Rebecca Elizabeth Roberts

    23/01/2022 Duração: 52min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

  • Geraint Jones

    16/01/2022 Duração: 53min

    Yr Athro Geraint Jones, Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau, UCL Llundain yw gwestai Beti George. Mae ganddo asteroid sydd wedi ei enwi ar ei ôl a hefyd mae ganddo record yn y Guinness Book of Records gan iddo ddarganfod cynffon comed hiraf erioed ar y pryd. Mab fferm Bryn Hyrddin, Pentraeth Ynys Môn ydi Geraint, fe aeth i Ysgol Gynradd Pentraeth. Roedd ganddo ddiddordeb yn y gofod bryd hynny ond doedd na neb arall yn wyddonwyr yn y teulu. Bu wedyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn symud i Lundain i astudio Seryddiaeth yn yr UCL, y Coleg lle mae o’n gweithio rŵan.

Página 6 de 30