Informações:
Sinopse
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episódios
-
Samuel Kurtz
09/01/2022 Duração: 54minBeti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ein Senedd ni yn y Bae. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ, sefydliad ac elusen iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn cefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n dewis ambell gân sydd wedi creu argraff gan gynnwys Dafydd Iwan a Shed Seven.
-
Kristoffer Hughes
02/01/2022 Duração: 53minKristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George. Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy. Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Mae'n sôn ei fod wedi dioddef o 'body dysmorphia' - " Oni byth yn ffitio mewn, 'o ni'n tyfu i fyny fel hogyn yn symud i mewn i gymdeithas hoyw ac roedd y rheini mor beautiful a doeddwn i jest ddim yn teimlo hynny". Mae Kristoffer hefyd yn siarad am baganiaeth, derwyddiaeth ac yn dewis caneuon sydd yn agos at ei galon, gan gynnwys rhai gan Eden a Bronwen Lewis.
-
Mei Jones
19/12/2021 Duração: 54minRhaglen deyrnged i'r diweddar Mei Jones yr actor, sgriptiwr ac awdur wnaeth greu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg,Fe recordiodd Beti George ddwy raglen gydag ef yn 2004 ac fe'i darlledwyd ar ddau Sul yn olynol - a dyma gyfle i chi eu clywed.
-
John Alwyn Griffiths
12/12/2021 Duração: 53minAwdur nofelau Ditectif a cyn Ditectif Arolygydd yn yr Adran dwyll yng Ngogledd Cymru John Alwyn Griffiths yw gwestai Beti George. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mangor a'i waith fel plismon, ditectif ac fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Dwyll. Pan oedd John yn fachgen ifanc yn yr ysgol doedd gan yr athrawon ddim llawer o hyder ynddo, medda fo. Feddyliodd neb y byddai’r bachgen hwnnw rhyw ddiwrnod yn awdur poblogaidd ac wedi cael gyrfa lwyddiannus yn yr heddlu. Mi helpodd ei brofiad o weithio efo’r Heddlu i ddatblygu fel person. Ar ôl ymddeol mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu nofelau ditectif yn y Gymraeg. .Mae John yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff
-
Laura Karadog
05/12/2021 Duração: 54minLaura Karadog ydi'r cwmni, ac fe gawn glywed am ei magwraeth yn Nhal-y-bont ger Bangor, a'i chyfnod hapus yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen - a'i thaith yn 12eg mlwydd oed i Czechoslovakia. Mae hi'n sôn am y profiad o fyw yn Tokyo, gweithio yn San Steffan a'i chyfnod yn Philadelphia yn dysgu mwy am y Crynwyr. Fe fu'n brwydro'r clefyd anorecsia yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth, a dyna wnaeth iddi droi at Yoga. Erbyn hyn mae hi'n byw ym Mhontyberem ar ôl cyfnod o fyw gyda'r teulu yn Llydaw. Mae hi'n rhannu straeon rif y gwlith ac yn sôn am ei phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Bendigeidfran gan Lleuwen i 'This is Me' - cân allan o’r sioe The Greatest Showman.
-
Dr Robin Parry
28/11/2021 Duração: 51minDr Robin Parry, meddyg teulu yn Llanberis am dros 30 mlynedd ydi gwestai Beti George. Ei gariad cyntaf yw pysgota ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Torgoch sy'n byw yn Llyn Padarn. Mae newydd ymddeol ac yn sôn am ei gyfnod yn hyfforddi ym Manceinion ac yn trafod yr heriau mae meddygon wedi ei wynebu yn ystod y pandenig. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Edward H i ganeuon Opera Eidalaidd.
-
Steffan Huws
21/11/2021 Duração: 54minBeti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Elin Llwyd Morgan
07/11/2021 Duração: 54minMae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd. Mae hi'n sôn am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y môr ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Dr Paula Roberts
31/10/2021 Duração: 54minBeti George yn sgwrsio gydag Dr Paula Roberts sydd wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ac wedi seiclo yn yr Himalayas a Uzbekistan.
-
Philippa Gibson
24/10/2021 Duração: 51minPhilippa Gibson sydd yn sgwrsio gyda Beti George, merch o Fryste sydd wedi setlo yn Llanrgannog ac yn gwneud llawer o waith yn ei chymuned. Mae hi hefyd yn fardd yn diwtor iaith ac yn blymar ac yn ymgyrchu dros newid hinsawdd.
-
Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.
13/09/2021 Duração: 47minCyn i'r Eisteddfod AmGen ddechrau, mae Beti George yn sgwrsio gyda'r Archdderwydd Myrddin Ap Dafydd am ei gefndir a'i ddylanwadau cynnar yn Llanrwst, ac am ei natur o fentergarwch.
-
Dylan Rhys Jones
12/09/2021 Duração: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r cyn-gyfreithiwr troseddol, Dylan Rhys Jones.Dylan yw awdur y llyfr "The Man in Black" sydd yn sôn am brofiadau Dylan o fod yn gyfreithiwr amddiffynnol i'r llofrudd Peter Moore ynghanol nawdegau'r ganrif ddiwethaf.
-
Andria Doherty
11/09/2021 Duração: 46minGwestai Beti George yw'r actores Andria Doherty, ddaeth i'r amlwg yn y gyfres "It's a Sin" fel y cymeriad Eileen Morris-Jones. Cawn ei hanes cynnar yng Nghwm Tawe ac am ei gwaith fel nyrs cyn i salwch ei tharo a golygu bod hi'n newid cyfeiriad o ran gyrfa.
-
D. L. Davies
10/09/2021 Duração: 49minBeti George yn sgwrsio gydag un o frodorion Cwm Cynon, yr hanesydd a'r athro Cymraeg, D. L. Davies. Cawn hanes ei blentyndod fel un o blant cyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberdâr, a hefyd ei brofiad fel athro Cymraeg Ail Iaith am dros chwarter canrif yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.
-
Llinos Medi Huws
10/09/2021 Duração: 49minGwestai Beti George yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Y Cynghorydd Llinos Medi Huws. Cawn gyfle i glywed am ei magwraeth ar fferm fach Ffleicws ger Llanddona, ac am gyfnodau heriol wrth iddi dyfu fyny.
-
Tomos Grace
10/09/2021 Duração: 49minBeti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
-
Owain Fôn Williams
10/09/2021 Duração: 49minGwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.
-
Paul Sambrook
10/09/2021 Duração: 50minGwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.
-
Maxine Hughes
10/09/2021 Duração: 48minGwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.